Ewyllysiau a Phrofiant

Ewyllysiau

Rydym yn argymell y dylai pawb wneud ewyllys oherwydd yr effiethiau anrhagweladwy o farw heb un gall yn  aml yn golygu bod eich asedau yn cael eu trosglwyddo i bobl y byddai’n well gennych beidio â’u derbyn. Mae hyn yn arbennig o wir gyda chyplau di-briod, ail briodasau a hanner-teuluoedd nad ydynt yn elwa’n awtomatig o’r rheolau diewyllysedd. Gall drafftio ewyllys fod yn gymhleth yn aml a gan hynny nid yw’n syniad da I ddefnyddio pecynnau DIY na chwmnïau nad ydynt wedi’u rheoleiddio. Gall un camgymeriad wrth ddrafftio neu weithredu’r ewyllys arwain at ganlyniadau annisgwyl, yn aml yn ddinistriol, gan adael aelodau o’r teulu yn ddigartref a heb unrhyw asedau. Yn anffodus, rydym yn gweld mwy a mwy o achosion lle mae pobl mewn profedigaeth yn gorfod ymladd am gyfran o ystad eu annwyliaid.

Mae Adolygu Ewyllys yr un mor bwysig ac rydym yn argymell adolygu Ewyllys bob dwy flynedd neu pan fo newid yn eich amgylchiadau teuluol, er mwyn sicrhau ei fod yn parhau’n briodol. Yn Morgan & Richardson, rydym yn dal miloedd o ewyllysiau yn ein storfa ac os gwnewch chi eich ewyllys gyda ni, gallwch fod yn dawel eich meddwl bod eich Ewyllys wedi’i ddrafftio a’i weithredu gan gwmni cyfreithiwr profiadol, wedi’i reoleiddio’n briodol a ganddynt arbenigedd yn y maes hwn.

Cyn i chi wneud eich ewyllys bydd angen i chi feddwl yn ofalus am y bobl yr hoffech chi elwa a hefyd os oes unrhyw bobl y dylech ddarparu ar eu cyfer, fel perthynas sy’n dibynnu’n ariannol arnoch chi. Mae’n hanfodol penodi ysgutor sydd gennych ffydd ynddo I weinyddu’ch ystâd. Mae gennych chi’r opsiwn i benodi ni i weithredu fel ysgutorion proffesiynol os byddai’n well gennych chi.

Rydym yn hapus i gynnig ymweliadau cartref os na allwch deithio i’r swyddfa

Profiant

Profiant yw’r broses o ddelio ag eiddo, arian a dymuniadau rhywyn wedi iddynt farw. Os cawsoch eich enwi fel ysgutor Ewyllys annwylyn, neu os ydynt wedi marw heb adael Ewyllys, gallwn eich helpu i reoli’r broses a chymryd llawer o’r straen, y dryswch a’r gwaith caled allan o’r broses.

Gall ein cyfreithwyr profiant reoli’r broses gyfan, gan gynnwys cael Grant Profiant neu Llythyrau Gweinyddu, medrant ddelio ag eiddo ac asedau eraill sy’n rhan o’r ystad a delio gyda treth etifeddiaeth. Rydym yn teilwra ein lefel o gymorth i’ch anghenion, gan wneud y broses o ddelio â phrofiant mor ddi-boen â phosib.

Treth Etifeddiant

Fel rheol, ni fydd unrhyw Dreth Etifeddu i’w dalu os naill ai:

  • fod gwerth yr ystâd yn is na’r trothwy o £ 325,000
  • rydych chi’n gadael popeth i’ch priod neu’ch partner sifil, elusen neu glwb chwaraeon amatur cymunedol

Yn ychwanegol. Os byddwch chi’n gadael eich cartref i’ch plant (gan gynnwys plant maeth, mabwysiedig neu plant “Step”) neu wyrion, bydd y trothwy yn cynyddu i £ 450,000.

Os ydych chi’n briod neu mewn partneriaeth sifil ac mae’ch ystâd yn werth llai na’ch trothwy, gellir ychwanegu unrhyw drothwy nas defnyddiwyd at drothwy eich partner ar eich marwolaeth chi. Mae hyn yn golygu y gall eu trothwy hwy fod cymaint â £ 850,000.