Atwrneiaeth Arhosol

Atwrneiaeth Arhosol

Mae mwy a mwy o bobl bellach yn creu Atwrneiaeth Arhosol (AA). Mae AA yn ddogfen lle gall person benodi rhywun arall, rhywun maent yn ymddiried ynddynt -fel arfer aelod o’r teulu neu ffrind – i ddelio â’u materion ariannol a materion iechyd a gofal.

Gellir defnyddio’r AA ariannol cyn gynted ei fod wedi ei wneud a phan nad oes gennych alluedd. Ni  ellir defnyddio’r AA iechyd a gofal hyd nes nad oes gennych y gallu i wneud eich penderfyniadau eich hun.

Gyda chyffredinrwydd dementia, mae clefyd Alzheimer a strôc yn cynyddu, yn anffodus efallai daw amser pan na fedrwn ni reoli ein materion ein hunain.

Unwaith y bydd eich AA wedi’i gofrestru gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, gall eich atwrnai ddangos yr AA i’ch banc, a sefydliadau amrywiol eraill. Bydd eich Atwrnai wedyn yn gallu delio â’ch arian a thalu’ch biliau. Gallwch enwebu mwy nag un atwrnai fel os na fedr un ohonyn nhw weithredu gall y llall gamu ymlaen. Gallwch hefyd nodi bod rhaid i’ch atwrneiod wneud penderfyniadau ar y cyd neu yn unigol.

Mae hefyd yn bosibl gwneud AA Iechyd a Lles i benodi rhywun i siarad ar eich rhan yn hytrach na gadael y penderfyniadau i’r bobl proffesiynol petai chi yn methu gwneud penderfyniadau am eich iechyd a’ch gofal eich hun yn y dyfodol. Gallwch benderfynu a fydd y pŵer hwn hefyd yn estyn i benderfyniadau ynglyn â thriniaeth cynnal bywyd.

Agwedd bwysig o AAau yw bod rhaid eu gwneud tra bod dal gennych allu meddyliol. Ni ellir eu gwneud unwaith y byddwch wedi colli’ch gallu meddyliol. Dylech felly ystyried gwneud AA nawr, er mwyn sicrhau pe bai’r gwaethaf yn digwydd a’ch bod yn colli gallu meddyliol, bydd eich atwrneiod yn gallu delio â materion ar eich rhan a gweithredu er eich lles gorau.

Cysylltwch â ni i drefnu apwyntiad os ydych chi am greu naill fath o AA neu’r llall – neu’r ddau. Gallwn eich cynghori a’ch cynorthwyo ar y ffurflenni yn ogystal â threfnu iddynt gael eu cofrestru gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fel eu bod yn barod i’w defnyddio petai angen

Llys Gwarchod

Fel y nodwyd uchod, yn anffodus mae mwy a mwy o bobl yn dioddef o glefydau a salwch ofnadwy fel dementia ac Alzheimers sy’n golygu na allant ddelio â’u materion eu hunain.

Beth sy’n digwydd os nad oes ganddynt Atwrneiaeth Arhosol? Os ydych chi’n ceisio cynorthwyo rhywyn i reoli eu harian ond  nad does gennych yr awdurdod angenrheidiol, gallwch wneud cais i’r Llys Gwarchod i gael eich  penodi’n “Ddirprwy”. Mae hyn yn eich galluogi i ddelio â chyllid yr unigolyn ar eu rhan er mwyn talu ffioedd gofal a threuliau eraill o ddydd i ddydd. Gallwch hefyd wneud cais am awdurdod i werthu eu heiddo. Mae’r ceisiadau hyn yn hirwyntog ac yn fwy cymhleth na chreu Atwrneiaeth Arhosol a dyna pam y mae’n syniad da cael Atwrneiaeth mewn lle. Os nad oes un i gael gall ein cyfreithwyr profiadol eich tywys drwy’r broses o wneud cais i gael eich apwynio’n Ddirprwy.