Ein Tîm

Julia Williams

Cyfarwyddwr | Cyfreithiwr

Mae Julia yn un o gyfarwyddwyr y cwmni ac yn arbenigo yn y meusydd canlynol; Cyfraith Teulu, Trawsgludo Eiddo, Ewyllysiau, Pwerau Atwrnïaeth, Achosion Sifil, a Chyflogaeth (boed ar ran cyflogwyr neu weithwyr). Mae Julia yn gyfreithwraig cyffredinol brwdfrydig a chymhellol. Mae’n ymfalchïo yn ei gallu i fod yn gyfeillgar ac agored.

Cwblhaodd Julia ei gradd yn y gyfraith a’r Cwrs Ymarferol Cyfreithiol ym Mhrifysgol Manceinion. Fe gymhwysodd fel cyfreithwraig ym 1999 arol hyfforddi gyda ffyrm o Gaerfyrddin. Mae hi yn eiriolwraig profiadol ac yn hyderus wrth ddelio gyda materion cymhleth ac anodd.

Mae hi’n cynnig gwasanaeth didor i’w chleientiaid gan ei bod hi’n medru darparu’r mwyafrif o wasanaethau cyfreithiol ei hun o brynu neu gwerthu eiddo i ewyllysiau, materion teuluol a datrys anghydfod. Mae’n ymdrîn a materion mewn modd pragmatig, effeithiol a chyflym. Mae’r mwyafrif o’i gwaith yn deillio wrth gleientiaid presennol, neu drwy gymeradwyaeth bersonol.

Mae Julia yn briod, gyda tair merch ac yn byw yng Nghaerfyrddin. Yn ei hamser hamdden mae hi’n mwynhau nofio a chanu mewn côr.

Ian Harries

Cyfreithiwr Cyswllt

Cafodd Ian ei eni a’i fagu yn Sir Benfro. Wedi derbyn Gradd yn y gyfraith o Gaerdydd,ac wedyn astudio yng Ngholeg y Gyfraith, Llundain, mae Ian wedi bod yn gyfreithiwr ers 1989.

Yn ogystal â gweithio fel cyfreithiwr, mae e’n ffermio anifeiliaid a ganddo gryn ddiddordeb ym myd amaeth.

Mae e’n rhugl yn y Gymraeg.

Arwyn Rees

Cyfreithiwr Ymgynghorol

Fe ymunodd Arwyn gyda Morgan a Richardson yn Ionawr 2014 wedi sawl mlynedd o weithio gyda chwmnioedd cyfreithiol yn llundain a chaerdydd.

Mae e’n wreiddiol o Eglwyswrw ac fe astudiodd y Gyfraith a Siapaneaidd ym Mrifysgol Caerdydd cyn gwneud ei hyfforddiant ac ymgymhwyso fel cyfreithiwr efo Linklaters yn Llundain. Wedi dwy flynedd yn ei hadran eiddo tir masnachol, fe symudodd I Gaerdydd le ymunodd efo Geldards fel cyfreithiwr eiddo tir masnachol. Fe dreuliodd 6 mlynedd gyda’r cwmni ac yn ystod y cyfnod fe weithiodd hefyd gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei hadran Economi a Thrafnidiaeth.

Mae Arwyn yn rhugl yn y Gymraeg ac yn barod I weithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae e’n briod gyda 2 ferch ac yn byw ar y fferm deuluol ger Eglwyswrw.

Gemma Whiteman

Trainee Licensed Conveyancer

Wedi cymhwyso’n ddiweddar fel Technegydd Trawsgludo, mae Gemma wedi gweithio yn Morgan & Richardson am 7 mlynedd fel Ysgrifennydd Cyfreithiol ac yn parhau i addasu ei rôl yn seiliedig ar ei chyflawniadau.

Mae gan Gemma Radd Anrhydedd BSc mewn Addysg Blynyddoedd Cynnar o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac mae’n parhau i ddatblygu ei chymwysterau ymhellach drwy astudio i fod yn Drawsgludwr trwyddedig.

Yn rhugl yn y Gymraeg, magwyd Gemma yn Aberteifi ac fe fagodd ei thri phlentyn yma. Mae hi'n mwynhau treulio amser gyda'i theulu, darllen, a gwylio ffilmiau yn ei hamser hamdden.

Rachel Clark

Trainee Solicitor

Ar hyn o bryd mae Rachel yn cwblhau ei hyfforddiant mewn sawl agwedd o’r gyfraith, gan gynnwys profiant, ewyllysiau, trawsgludo, atwrneiaethau arhosol a gorchmynion Dirprwyaeth. Ymunodd â’r tîm fel cyfreithiwr dan hyfforddiant yn 2021 gyda phrofiad blaenorol yn gweithio fel Paragyfreithiwr yn Llandysul.

Ar ôl cwblhau ei gradd yn y gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth, fe aeth Rachel ymlaen i astudio gradd Meistr mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol cyn ennill rhagoriaeth yn ei Chwrs Ymarfer Cyfreithiol ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae Rachel yn ymfalchïo mewn cyfeillgarwch er mwyn sicrhau'r gwasanaeth gorau posibl i bob cleient. Mae hi wastad wedi mwynhau astudio ac ymarfer y Gyfraith ac mae hi’n edrych ymlaen at barhau i ddatblygu ei gyrfa yn Morgan & Richardson.

Mae Rachel yn byw gyda'i phartner a dau o blant ifanc sy'n rhannu ei chariad at yr awyr agored a chadw'n heini.