Eiddo

Byddwn yn gweithio gyda chi i leihau’r straen o symud, gan ddarparu adroddiadau rheolaidd a sicrhau bod eich gofynion chi yn cael eu diogelu. Rydym yn darparu gwasanaeth ffi pendant gystadleuol heb unrhyw gostau cudd, ac yn eich hysbysu’n llawn o bob cam naill ai trwy e-bost neu’ch dull cyfathrebu dewisiol.

Mae gan ein arbenigwr eiddo masnachol, Arwyn Rees, brofiad helaeth o weithredu ar gyfer tirfeddianwyr, datblygwyr, landlordiaid a thenantiaid. Mae’n cydnabod pa mor bwysig yw hi i gael dealltwriaeth lawn o’ch nodau ac amcanion ac mae’n ymdrin â phob mater yn ymarferol ac adeiladol.

Rydym hefyd wedi ein hachredu'n llawn ac yn aelod o Gynllun Ansawdd Trawsgludo Cymdeithas y Gyfraith - sy'n rhoi heddwch meddwl llwyr i chi eich bod chi'n derbyn y gwasanaeth trawsgludo gorau posibl. Mae'n debyg mai'r broses o symud cartref yw'r trafodiad mwyaf mae'r rhan fwyaf o bobl yn ymgymryd ag ef yn eu bywydau. Trwy dderbyn achrediad CQS rydym wedi dangos bod gennym y sgiliau a'r arbenigedd i ddarparu cyngor trawsgludo preswyl o safon. Mae hyn yn sicrhau ein cleientiaid y byddant yn cael yr holl wybodaeth sydd angen arnynt i ddeall y broses, eu opsiynau, y costau a'r amseri o’r cychwyn cyntaf.

Rydym yn falch o fod wedi cyrraedd y safonau ymarfer ac uniondeb angenrheidiol ar gyfer derbyn achrediad o dan y Cynllun hwn.

Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys:

  • Prynu a gwerthu’ch cartref
  • Prynu a gwerthu eiddo prydlesol
  • Ail-forgeisi
  • Rhyddhau ecwiti
  • Trosglwyddo eiddo neu gyfran mewn eiddo
  • Perchnogaeth ar y cyd
  • Datganiadau o Ymddiriedolaeth
  • Cofrestriadau cyntaf
  • Estyniadau prydles a rhyddfreintio prydlesi
  • Gwerthiant a phrynu eiddo trwy arwerthiant
  • Caffael tir
  • Buddsoddiad eiddo
  • Datblygiadau bach
  • Gwasanaethau landlordiaid

Gall symud tŷ fod yn straen.

Yn Morgan a Richardson rydym yn gwbl ymrwymedig i roi gwasanaeth cyfeillgar, effeithlon a phroffesiynol i chi i helpu i symleiddio’r broses.

Y Broses Trawsgludo

Cyn gynted ag y byddwch wedi dod o hyd i’r eiddo yr ydych am ei brynu ac wedi cytuno ar y pris, mae angen i chi benodi’ch cyfreithiwr. Gallwn ddarparu dyfyniad penodol o’r costau ynghyd â manylion llawn am y treuliau eraill sy’n daladwy megis treth stamp, costau archwiliadau a ffioedd y gofrestrfa tir.

 

Ar ôl cael ein cyflogi byddwn yn cychwyn ar y gwaith cyn-gontract, gan gynnwys cynnal archwiliadau a chodi ymholiadau cyn-gontract. Os oes angen morgais arnoch, yr ydym yn Gyfreithwyr Panel ar gyfer y rhan fwyaf o gymdeithasau adeiladu a banciau. Mae hyn yn golygu y byddwn fel arfer yn gallu gweithredu i’r benthyciwr yn ogystal â chi, sy’n lleihau’r costau ac yn helpu i wneud y broses mor gyflym â phosib. Mae’n hanfodol cael cynnig ysgrifenedig o gyllid gan eich benthyciwr morgais cyn cyfnewid contractau. Byddwn yn sicrhau bod yr holl amodau yn y cynnig yn dderbynol cyn i chi ymrwymo’ch hun.

  • Bydd y benthyciwr morgais yn cynnal prisiad o’r eiddo. Nid arolwg yw hwn – dim ond adroddiad prisio ar gyfer y benthyciwr. Mae gwahanol fathau o arolwg ar gael fodd bynnag, a gallwn drafod y rhain gyda chi a’ch cynghori pa un fydd yn addas i’ch amgylchiadau ac anghenion unigol chi
  • Ar gyfnewid cytundebau, mae angen i chi dalu blaendal – sy’n debygol o fod o leiaf 5% o’r pris prynu. Os ydych chi’n gwerthu hefyd, gall hyn ddod yn aml o’r blaendal ar eich gwerthiant
  • Os ydych chi’n prynu ar y cyd gyda phriod neu bartner, bydd angen i chi ystyried a ddylid dewis cyd-denantiaeth neu denantiaeth yn gyffredin – gallwn eich cynghori ar hyn
  • Byddwn yn edrych ar y wybodaeth a ddarperir gan y gwerthwr, yn eich helpu i ddehongli dogfennau technegol ac yn eich cynghori ynghylch unrhyw broblemau posibl.

Cyfnewid cytundebau a chwblhau

Unwaith y bydd yr holl archwiliadau a’r ymholiadau wedi’u cwblhau ac yn foddhaol byddwn yn paratoi i gyfnewid cytundebau. Dyma pan fydd y ddwy ochr yn barod i fynd ymlaen, mae’r ddau gontract a lofnodir yn cael eu “cyfnewid” a’u dyddio, ac mae’r blaendal yn cael ei dalu. Mae’r ddwy ochr wedi ymrwymo’n gyfreithiol o hyn ymlaen.

 

Cwblhau yw’r dyddiad pan dalir gweddill yr arian, trosglwyddir yr allweddi a danfonir y gweithredoedd i gyfreithiwr y prynwr. Mae’r dyddiad cwblhau wedi’i benodi ar gyfnewid cytundebau a gall fod ar unwaith neu nes ymlaen i ganiatáu amser i wneud trefniadau ar gyfer symud.

 

Mae’n cymryd 8 wythnos ar gyfartaledd i gwblhau trafodiad trawsgludo. Yma yn Morgan & Richardson rydym yn ymrwymedig i gynnig gwasanaeth cyfeillgar, effeithlon a phroffesiynol er mwyn helpu symleiddio’r broses drwyddo draw.