Cyfraith Teulu

Mae bob un o’n cyfreithwyr teuluol hefyd yn darparu gwasanethau trawsgludo tir ac ewyllysau fel y gallwn gynnig pecyn cyflawn i chi. Ni fydd angen i chi ymgynghori â chyfreithiwr arall ar gyfer y gwasanaethau hyn.

Ein nod yw sicrhau'r canlyniad gorau i chi a'ch teulu ar gost cystadleuol ac rydym yn hyderus o ddarparu gwasanaeth cyfreithiol rhagorol i chi. Mewn gwirionedd, mae adborth ein cleientiaid a’r ffaith fod cymaint yn mynd yn mynd ymlaen i ddefnyddio ein gwasanethau eto yn dangos hyn.

Plant

Yn naturiol, y prif ystyriaeth i rhieni sy’n gwahanu yw’r trefniadau ar gyfer eu plant yn y dyfodol a sut y bydd y rhain yn cael eu penderfynu. Yr ystyriaeth bwysicaf yw’r trefniadau ynglyn a ble fydd y plant yn byw. A fydd y plant yn byw gydag un rhiant ac yn gweld yr un arall yn rheolaidd neu a fyddant yn rhannu preswyl, yn treulio amser gyda’r ddau riant bob wythnos?

Efallai y bydd materion penodol i’w pennu fel addysg plentyn neu fagu crefyddol neu efallai y bydd angen trafod teithio dramor naill ai am wyliau neu symudiad parhaol. Yn ddelfrydol, bydd rhieni yn gallu dod i gytundeb ac ni fydd angen defnyddio cyfreithwyr na’r llysoedd.  Weithiau, fodd bynnag bydd angen cyngor cyfreithiol ar rhieni.

Gall Morgan & Richardson roi cyngor i rhieni ar yr holl faterion hyn. Mae gennym agwedd bragmatig, sy’n canolbwyntio ar y plentyn ac yn rhoi buddiannau’r plentyn yn gyntaf wrth ystyried atebion gyda chi. Mae’n well dod o hyd i gytundeb lle bo’n bosibl bob amser ac mae yna sawl ffordd o gyflawni hyn, megis cyfryngu, trafod rhwng cyfreithwyr neu ddulliau cydweithredol cyn ceisio help gan y Llys.Mewn gwirionedd, dewis olaf dylai’r llys fod bob amser – i’w ddefnyddio lle mae pob ymdrech arall i gytuno ar ateb wedi methu.

Mae gennym gyfoeth o brofiad yn yr achosion hyn a byddwn yn gwrando’n ofalus ac yn gydnaws ar yr hyn sydd gennych i’w ddweud cyn amlinellu’ch opsiynau. Rydym yn deall bod mynd i’r Llys ynglyn a’ch plant yn hynod o straen ac felly byddwn yn eich tywys bob cam o’r ffordd.

Ysgariad

Pan fod perthynas yn chwalu a cwpl yn gwahanu gall hyn fod yn gyfnod dryslyd a gofidus iawn boed i chi fod yn briod, yn cyd-fyw neu mewn partneriaeth sifil. Bydd Morgan & Richardson yn eich llywio drwy’r broses. Rydym yn ymdrin ag ystod eang o achosion, gan gynghori pobl sydd â’u hadnoddau’n dynn yn ogystal â’r rheini lle mae asedau sylweddol mewn eiddo a buddsoddiadau. Byddwn yn ystyried eich sefyllfa ariannol ac yn canolbwyntio ar gyrraedd cytundeb sy’n ateb anghenion eich teulu chi. Byddwn yn eich cynghori ynghylch y costau tebygol trwy gydol yr achos. Rydym yn cefnogi cyfryngu ac yn annog cyrraedd cytundeb heb yr angen am achosion Llys hir a chostus.

Cytundebau Ariannol

Mae emosiwn yn rhedeg yn uchel pan fydd priodas yn chwalu a dyna pam y mae’n well ymgynghori â rhywun sy’n gallu rhoi cyngor clir a phragmatig i chi.

Mae ofynnol i chi geisio cytuno ar sut y bydd asedau’r teulu yn cael eu rhannu ac mae gennym gyfoeth o brofiad yn yr achosion hyn. Gallwn eich helpu i benderfynu a allwch chi barhau i fyw yn y cartref teuluol neu a fydd yn rhaid ei werthu ac os felly, sut y dylid rhannu’r enillion ac asedau eraill. Yn ogystal, gallwn eich cynghori a oes gennych hawl i dderbyn taliadau cynhaliaeth gan eich priod a’r lefel cynhaliaeth briodol ar gyfer eich plant. Mae angen ystyried trefniadau pensiwn pob aelod hefyd er mwyn sefydlu a fyddai gorchymyn rhannu pensiwn yn briodol i sicrhau bod incwm ymddeol pawb yn deg.

Cyplau di-briod

Nid oes cyfrifoldebau cyfreithiol penodol yn ymwneud â chyd-fyw oni bai eich bod yn berchen ar eiddo gyda’ch gilydd. Yn Lloegr a Chymru yn gyfreithlon ni chaiff “wr neu wraig gyfraith gyffredin” ei gydnabod a dyna pam y gall datrys materion ariannol a pherchenogaeth eiddo fod yn gymhleth iawn pan nad ydych chi’n briod. Mae gennym wybodaeth a dealltwriaeth fanwl o’r fframwaith cyfreithiol hynod gymhleth a newidiol sy’n rheoli’r anghydfodau hyn a gallwn eich helpu i ddatrys y rhain mewn modd rhesymol a theg.

Mae’n ddoeth ystyried dod i gytundeb gyda’ch partner ynglŷn â sut rydych chi’n dymuno dal yr asedau cyn cyd-fyw. Gallwn eich helpu i ddrafftio cytundeb cyd-fyw neu Ddatganiad o Ymddiriedaeth ar gyfer eich eiddo fel bod y ddau ohonoch yn gwybod yn union sut y byddai’ch asedau’n cael ei rannu petai eich perthynas yn chwalu.

Mae hawliau rhieni di-briod hefyd yn wahanol iawn i rhieni priod pan ddaw i gefnogaeth ariannol ar ddiwedd perthynas. Os mai chi yw prif ofalwr eich plentyn bydd angen cartref addas a chymorth ariannol rheolaidd arnoch ar ôl gwahanu. Gallwn gynghori a’ch tywys drwy’r broses hon.

Cysylltwch â Ni